Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 22 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jo Jerrome, Cymdeithas Ffibriliad Atrïol Ana Palazon, Y Gymdeithas Strôc Cymru Paul Underwood, Y Gymdeithas Strôc Cymru Lowri Griffiths, Y Gymdeithas Strôc Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc - tystiolaeth gan y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd (09.30 - 10.30)
2.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc.
3. Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc - tystiolaeth gan y Gymdeithas Strôc (10.30 - 11.30)
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol am bapur ar roi’r Cynllun Gweithredu i Leihau’r Risg o Strôc ar waith.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor y dylai geisio gwybodaeth am gyfranogiad darparwyr gwasanaethau cymdeithasol i’r byrddau partneriaeth strôc.
3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Gynghorydd Fferyllol i roi gwybod iddo am yr ymchwiliad i leihau’r risg o strôc.
4. Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2012-13 - ystyried y dull gweithredu (11.30 - 11.40)
4.1 Cytunodd y Pwyllgor y bydd yn cynnal trafodaeth preifat gyda rhanddeiliaid cyn ei sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13.
5. Ymchwiliad i ofal preswyl i oedolion - papur cwmpasu (11.40 - 11.50)
5.1 Cytunodd y Pwyllgor y bydd yn cynnal ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hŷn ac y bydd yn trafod y cylch gorchwyl draft yn ei gyfarfod 28 Medi.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid anfon cylch gorchwyl draft yr ymchwiliad at randdeiliaid ac y dylid caniatáu cyfnod o bythefnos er mwyn iddynt gyflwyno’u sylwadau.
6. Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru - llythyr gan y Cadeirydd (11.50 - 11.55)
6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar ei ymchwiliad i iechyd y geg mewn plant.
7. Papur i'w nodi: Blaenraglen waith y Pwyllgor - Hydref 2011 (11.50 - 12.00)
7.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd y dylid cyhoeddi’r blaenraglen waith yn rheolaidd.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.